Dr. Britta Schulze-Thulin


Hafan


Cerdded yng Nghymru

Argraffiad Newydd Llyfr Cerdded Cymru

Mae Dr. Britta Schulze-Thulin wedi ailwneud ei llyfr cerdded dan y teitl "Wales" (Cymru) wrth wasg Rother. Mae‘r llyfr cerdded hwn wedi dod allan mewn drydydd argraffiad fis Awst 2019.

Rother Wanderführer Wales (Rother: llyfr cerdded Cymru)

Clawr meddal - 158 tudalen

Cyhoeddwyr: Bergverlag Rother, München (Miwnic)

Dyddiad Cyhoeddi: 2019

ISBN: 978-3763344291

Argraffiad: 3

Pris: Ewro 14.90

laith: Almaeneg

Archebu wrth Rother

 

 

Mae’r arweinlyfr cerdded hwn yn dangos tirwedd ddramatig a phrydferth Cymru. Gyda’i dirwedd amrywiol eithriadol – y mynyddoedd uchel, dyffrynnoedd coediog, afonydd, llynnoedd ac arfordir mae Cymru yn baradwys i gerddwyr.

Mae’r mynyddoedd yn cynnwys peth o dirwedd mwyaf ysblennydd a nodedig. Yn Eryri mae cadwyni mynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr. Mae’r tir garw yn cynnwys golygfeydd mwyaf ysblennydd a nodedig, dyffrynnoedd unig, llynnoedd ac afonydd. Yn y de mae‘r Bannau Brycheiniog gyda dyffrynnoedd afonydd coediog sy‘n torri drwyddynt ac yn ffurfio rhaeadrau gwych. Mae’r arfordir gyda’i baeau melyn trawiadol, creigiau a chlogwyni geirwon yn rhywbeth i bawb.

Mae cyfoeth o lwybrau o bob math ar gael i fwynhau crwydro yng Nghymru. Mae’r llyfr cerdded hwn yn cyflwyno casglaid y pum deg gorau ohonyn nhw.

Dyma arweinlyfr cerdded cyntaf am Gymru yn yr iaith Almaeneg.